|
|
Opera Cenedlaethol Cymru yn gweithio gyda myfyrwyr Prifysgol Glyndŵr
21 Chwefror 2012 Roedd Opera Ieuenctid Cenedlaethol Cymru yn edrych allan am sêr opera’r dyfodol tra’n cynnal gweithdy ar thema Sweeney Todd gyda myfyrwyr o Brifysgol Glyndŵr. Arweiniwyd y digwyddiad gan Ruth Evans, Cynhyrchydd MAX Opera Cenedlaethol Cymru (OCC) yng Ngogledd Cymru a Dafydd Hall Williams, cyfarwyddwr cynorthwyol Opera Ieuenctid Cenedlaethol Cymru (OICC) gyda myfyrwyr theatr, teledu a pherfformio yng Nghanolfan Catrin Finch, Wrecsam. Cafodd y criw ddosbarth meistr mewn sgiliau ar gyfer y llwyfan, yn cyfuno canu, actio a gweithgareddau perfformio.
Meddai Elen Mai Nefydd, uwch ddarlithydd mewn theatr, teledu a pherfformio ym Mhrifysgol Glyndŵr: “Cafodd y myfyrwyr amser wrth eu boddau. Rydym yn awyddus i’w cysylltu gyda’r diwydiant celfyddydau perfformio yng Nghymru gymaint ag y gallwn ac roedd hyn yn gyfle gwych iddyn nhw weithio gyda phobl broffesiynol o Opera Cenedlaethol Cymru, sy’n gorff byd-enwog. “Er nad ydym yn astudio opera fel y cyfryw fel rhan o’u gradd, mae’r sgiliau perfformio y byddant wedi eu datblygu yn sgil y gweithdy yn uniongyrchol berthnasol a throsglwyddadwy i unrhyw yrfa ym maes celfyddydau perfformio, gan gynnwys theatr a theledu.” Roedd gwaith OICC ym Mhrifysgol Glyndŵr yn rhan o ymgyrch tair-blynedd OCC i greu mwy o bresenoldeb yng nogledd Cymru – gan gynnwys gweithio gydag ysgolion, prifysgolion ac yng nghanol tref Wrecsam. Eu digwyddiad mawr nesaf fydd gweithdy theatr gerdd wythnos-o-hyd ar gyfer pobl ifanc yn Theatr Y Stiwt, Rhos, Ebrill 10-15. Meddai Ruth, sy’n wreiddiol o Ruthun ond a raddiodd yn Rhydychen: “Mae pawb yn OCC yn broffesiynol ac rydym eisiau dangos i bobl ardal Wrecsam a gogledd Cymru y gallant anelu at weithio i gwmni opera. “Y myfyrwyr ym Mhrifysgol Glyndŵr yw’r union fath o bobl yr hoffem eu gweld yn ymwneud ag opera ieuenctid yng Nghymru ac roedd yn anrhydedd treulio’r diwrnod gyda nhw yn y ganolfan celfyddydau perfformio ragorol yma y gallant wneud defnydd ohoni. “Mae Dafydd newydd orffen cyfarwyddo ei opera gyntaf felly roedd yn wych ei gael ef gyda ni am y diwrnod i rannu ei sgiliau a’i brofiad gyda’r myfyrwyr.”
|
|