Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Oriel Sycharth logo

 

Mae’r Oriel wedi ei lleoli ar y llawr cyntaf uwchlaw’r brif dderbynfa ar Gampws Plas Coch, ar agor Llun - Gwener, 9am – 4.30pm.

Ers iddi agos ym mis Chwefror 2009 y mae wedi ymdrechu i ddarparu rhaglen amrywiol o arddangosfeydd grŵp ac unigol sy’n amlygu gwaith artistiaid cenedlaethol a rhyngwladol.

Arddangosfa arfaethedig

F/ocal Length

12 Mehefin – 3 Hydref 2012
 
Bydd Oriel Sycharth yn canolbwyntio ar Gelfyddyd Weledol yn yr arddangosfa nesaf o’r enw F/ocal Length sy’n agor Ddydd Mawrth 12 Mehefin. Bydd yr arddangosfa yn cynnwys cyfres o glipiau fideo gan yr artistiaid a ddaethpwyd ynghyd gan eu bod i gyd wedi arddangos eu gwaith o’r blaen yng Nghymru.

Mae’r artistiaid yn cynnwys yr artist Gwyddelig adnabyddus Cecily Brennan, sy’n myfyrio ynghylch bregusrwydd yr ysbryd dynol yn ei gwaith ac wedi arddangos yn genedlaethol ac yn rhyngwladol gan dderbyn llawer o ganmoliaeth. Yr arddangoswyr eraill fydd yr artistiaid gweledol Heather Phillipson a Jessica Lloyd-Jones. Bydd gwaith gan aeloau o staff y Brifysgol, Richard Smith, Tracy Piper-Wright ac Yvonne Eckersley hefyd yn cael ei arddangos, yn ogystal â detholiad o waith gan ein myfyrwyr.
 
Bydd yna Agoriad Arddangosfa a derbyniad diodydd yn cynnwys sgwrs gan yr artistiaid Ddydd Mawrth 12 Mehefin 5pm – 7pm ble gallwch glywed mwy am y casgliad o waith hynod ddiddorol yma. Os oes gennych ddiddordeb mewn mynychu, ebostiwch c.thorne@glyndwr.ac.uk
 
Mae Oriel Sycharth Gallery ar agor Llun-Gwener 9.00am – 5.00pm (4.30pm Ddydd Gwener) yn ystod y tymor. Mae wedi ei leoli ar brif gampws Prifysgol Glyndŵr uwchben y brif dderbynfa.

 

Unstrung gan Cecily Brennan Unstrung gan Cecily Brennan

Frank Bowling a Dennis de Caires: Paentiadau

28 Chwefror tan 19 Mai 2012

Graddiodd y ddau artist o Goleg Celf Brenhinol Llundain ac mae dylanwad eu blynyddoedd cynnar yng nghefn Guyana i’w weld yn eu gwaith.

Dywedodd Estelle Thompson, sy’n athro ymchwil mewn celfyddyd gain ym Mhrifysgol Glyndŵr: “Mae 22 mlynedd wedi mynd heibio ers i Frank Bowling a Dennis de Caires fod gyda’i gilydd mewn arddangosfa uchelgeisiol, sef yn 1989 yng Nghanolfan Umana Yana yn Georgetown, Guyana, ac mae’r arddangosfa newydd hon yng Nghymru yn rhoi cyfle i ni ailastudio a gwerthfawrogi eu gwaith unwaith eto.”

Bowling and de caires listing welsh with pic

Dylanwadodd yr awdur o Guyana Wilson Harris ar waith Bowling a de Caires, ac mae’r ddau artist wrth eu boddau â phaentiadau o Brydain sydd i’w weld yn amlwg yn y casgliad o waith a gaiff ei arddangos.

Derbyniodd Bowling OBE yn 2008 am ei wasanaethau i gelf ac mae ei waith wedi cael ei arddangos yn Llundain, Efrog Newydd, Chicago a New Jersey, UDA.

Mae De Caires dros ugain mlynedd yn iau na Bowling, ac mae’n byw ac yn gweithio yn Llundain ac yn Barbados, a’i waith wedi cael sylw helaeth yn y ddau le.

Mae ‘Frank Bowling a Dennis de Caires: Paentiadau’ yn agor yn Oriel Sycharth ddydd Mawrth 28 Chwefror 2012 gyda sesiwn breifat rhwng 5pm a 7pm. Bydd y ddau artist yn rhoi sgwrs fer ragarweiniol i’r arddangosfa yn ystod y noson.

                                                                                          'ffotograff gan Jens Marott'

Caiff y paentiadau wedyn eu harddangos o 9am tan 4.30pm ddydd Llun i ddydd Gwener yn yr oriel.

bowling de caires pic 2 Dennis De Caires Gwyrdd a Melyn 2008-11 Olew ar Banel

bowling and de caires pic 3 Frank Bowling Clo Mortais 2011 Cyfryngau Cymysg ar Gynfas

Arddangosfeydd blaenorol

Ein campysau a’n cyfleusterau