|
Rhydych chi yma:
Hafan > Ffioedd a chyllid myfyrwyr
|
||
|
|
Ffioedd a chyllid myfyrwyrAstudio israddedig lawn amser yn 2012/13 – faint y byddwch yn ei dalu a’r cymorth sydd ar gael i chi
Mae Prifysgol Glyndŵr wedi cyhoeddi ffî o £6,643 ar gyfartaledd ar gyfer graddau israddedig llawn amser yn y flwyddyn academaidd 2012-13. Mae cynllun ffioedd y brifysgol yn cydnabod yr angen i osgoi, cyn belled ag y bo modd, llwytho myfyrwyr â dyledion mawr pan fyddant yn gadael y Brifysgol. Bydd ffioedd yn cychwyn o dan £4,000 ar gyfer graddau sylfaen, ac yn amrywio hyd at £7,750 ar gyfer pynciau STEM (gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg). Oherwydd fod angen i chi ystyried sut yr ydych yn mynd i dalu am eich ffioedd hyfforddi a’ch costau byw unwaith y byddwch ym Mhrifysgol Glyndŵr, byddwn yn eich diweddaru am ffioedd a chymorth yn 2012/13 trwy’r adran yma o’r wefan, yn ogystal ag ar ein tudalen Facebook a’n porthiant twitter (@glyndwruni). Pa gymorth sydd ar gael i mi?Bydd yna help ar gael i dalu ffioedd a chwrdd â chostau byw. Bydd faint y byddwch yn ei gael yn dibynnu ar incwm eich cartref a’r brifysgol a ddewisir gennych. Cofiwch – ni fydd yn rhaid i chi dalu unrhyw ffioedd i Brifysgol Glyndŵr cyn cychwyn.
Pryd ddylwn i wneud cais am gymorth?Mae gwybodaeth am y broses o wneud ceisiadau ar gyfer 2012 ar gael yn awr ar wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru. Fe’ch cynghorir i wneud cais am gefnogaeth cyn gynted â phosibl er mwyn gwneud yn siŵr ei bod yn barod unwaith i chi gofrestru gyda ni. Mae gwybodaeth, cyngor ac arweiniad pellach ar gael gan gynghorwyr cyllid Prifysgol Glyndŵr – gweler y manylion cyswllt isod. Cymorth gyda materion ariannol ym Mhrifysgol GlyndŵrMae ein swyddogion cyllid myfyrwyr yn brofiadol iawn mewn sicrhau eich bod yn gallu cael gafael ar y pecyn cymorth ariannol gorau posib ar gyfer eich astudiaethau. Yn ogystal â helpu i sicrhau eich bod yn cael yr holl gymorth a chefnogaeth sydd arnoch eu hangen unwaith i chi ymuno â ni, gallant helpu i sicrhau eich bod ar y trywydd iawn pan ddaw i wneud cais am gyllid cyn i chi ddod i’r brifysgol. Gallwch gael gafael ar ffurflenni a chael cyngor ynglŷn â’u llenwi, ac edrych ar yr opsiynau sy’n berthnasol i’ch amgylchiadau unigol. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am ein Gwasanaeth Cyllid a Lles Myfyrwyr. |
|