Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Pynciau academaidd

Sefydliadau prifysgol

Yn 2010, cyflwynodd Prifysgol Glyndŵr system newydd arloesol i sicrhau ansawdd a pherthnasedd y cyrsiau a gynigir gennym.

Yn sgil ail-lunio beiddgar ein strwythur mewnol, cyfnewidiwyd y saith ysgol academaidd flaenorol gyda’r Ysgol Astudiaethau Israddedig a’r Ysgol i Raddedigion, sy’n comisiynu rhaglenni academaidd o ddau Sefydliad Prifysgol. Rhain yw Sefydliad y Celfyddydau, Gwyddoniaeth a Thechnoleg a’r Sefydliad Iechyd, Gwyddorau Meddygol a Chymdeithas.

Gan hynny, mae pob un o gyrsiau’r Brifysgol yn cael eu harchwilio yn ofalus a’u diweddaru yn barhaus er mwyn dal i fyny â byd newidiol.

Mae ein llwyddiant yn ddyledus i’r ffaith fod ein cyrsiau yn darparu yn union yr hyn y mae cyflogwyr yn chwilio amdano. Rydym yn cyflawni hyn trwy ein cysylltiadau agos gyda chyflogwyr a chyrff proffesiynol ar lefel leol a chenedlaethol. Mae gwaith prosiect yn aml yn seiliedig ar sefyllfaoedd go iawn ac yn aml yn golygu gweithio gyda chwmni i ddatblygu datrysiadau i broblemau masnachol go iawn.

Mae gan Brifysgol Glyndŵr hefyd sylfaen ymchwil ac ysgolheictod gadarn, ac mae gan hyn gryn ddylanwad ar ein cyrsiau. Mae’n sicrhau fod ein ysgolheigion yn gyfredol â’r ymchwil a’r syniadau diweddaraf yn eu maes, ac mae hyn yn ei dro yn cadw ein cyrsiau yn gyfredol a pherthnasol i ddiwydiant.

Sefydliadau Prifysgol