Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Dychwelyd i addysg

Beth all addysg uwch ei gynnig i mi?

Beth all addysg uwch ei gynnig i mi?

Pe hoffech newid cyfeiriad mewn bywyd, mae addysg uwch yn rhoi cyfle i chi ddysgu sgiliau newydd ac ehangu eich gorwelion. Mae hyn yn berthnasol os:

  • ydych yn hapus yn eich gyrfa ac eisiau datblygu a symud ymlaen;
  • ydych yn anfodlon gyda’ch sefyllfa bresennol ac yn edrych am newid llwyr;
  • nad ydych wedi astudio ers gadael ysgol ac yn hoffi profi addysg uwch;
  • ydych eisoes wedi cael gradd israddedig neu gymhwyster cyfatebol ac yn dymuno astudio am wobr uwchraddedig.

Trwy ddewis ymgymryd ag astudiaeth bellach, gallwch ddechrau o’r newydd a mynd ar drywydd cyfleoedd nad oeddent ar gael i chi o’r blaen efallai. Mae ein rhaglenni yn gyfoes ac yn berthnasol i gyflogwyr heddiw, felly dylech allu dod o hyd i rywbeth heriol a diddorol sy’n cwrdd â’ch anghenion neu’ch uchelgeisiau datblygu. 

Mae bywyd campws yn bleserus ynddo’i hun. Byddwch yn cyfarfod â llawer o bobl eraill yn gwneud yr un peth â chi, felly gallwch rannu syniadau gyda nhw, cael sgwrs gyda nhw am eu cynlluniau, neu ddim ond mwynhau’r bywyd cymdeithasol ar y campws. Yr ydym yn gobeithio y bydd hyn yn brofiad bywiocaol.

Cofiwch fod yna ystod o opsiynau ar gyfer astudio yn hyblyg – mae gennym lawer o wybodaeth am hyn yn adran astudiaeth hyblyg ein safle.

Sut i wneud cais